Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
24 Mai 2017
Amser y
cyfarfod: 13.30
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
(0 munud)
Ni chyflwynwyd unrhyw Gwestiynau Amserol.
(5 munud)
(30 munud)
(30 munud)
(60 munud)
NDM6316 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu ymrwymiad Prif Weinidog y DU i ddileu tollau ar Bontydd Hafren, a fydd yn sicrhau hwb o £100 miliwn i economi Cymru.
2. Yn cydnabod yr angen am fargen dwf i ogledd Cymru a phwysigrwydd hyn ar gyfer ffyniant yn y rhanbarth yn y dyfodol.
3. Yn nodi pwysigrwydd datblygu bargeinion rhanbarthol tebyg ar gyfer cymunedau gwledig yng nghanolbarth Cymru er mwyn sicrhau bod ein gwlad yn gweithio i bawb.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Jane Hutt (Bro Morgannwg):
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu rôl arwain Llywodraeth Cymru wrth iddi gydweithio â phartïon eraill i ddileu tollau ar Bontydd Hafren, a fydd yn sicrhau hwb o £100 miliwn i economi Cymru.
2. Yn nodi’r ffaith bod y Prif Weinidog wedi newid ei meddwl o safbwynt cefnogi’r cynnig i ddileu tollau Pontydd Hafren.
3. Yn cydnabod ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gydweithio â Llywodraeth y DU a phartneriaid ar bob ochr i gyflawni bargen dwf i ogledd Cymru a sicrhau cysylltiadau trafnidiaeth cynaliadwy i mewn i bob rhan o Gymru.
4. Yn nodi’r ffaith mai un rhan yn unig o gynllun Llywodraeth Cymru i gynyddu twf economaidd a gwella’r system drafnidiaeth yng Nghymru yw dileu’r tollau. Mae’r cynllun hwn yn cynnwys gwaith sydd eisoes ar droed i ddatgarboneiddio’r rhwydwaith trafnidiaeth, a hynny’n unol â rhwymedigaethau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015
[Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol]
Gwelliant 2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn cydnabod blaenoriaeth frys trydaneiddio Llinell Reilffordd Arfordir y Gogledd, Prif Linell Reilffordd De Cymru a Llinellau Rheilffordd y Cymoedd a'u pwysigrwydd o ran ffyniant eu rhanbarthau perthnasol yn y dyfodol.
Gwelliant 3. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth y DU i wneud penderfyniad cadarnhaol o ran ariannu Morlyn Llanw Bae Abertawe er mwyn sicrhau twf economaidd yn yr ardal honno.
Gwelliant 4. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgynghori â Chyngor Sir Penfro i ddileu tollau ar Bont Cleddau yn Sir Benfro fel hwb economaidd i'r ardal.
(60 munud)
NDM6318 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi Rhaglen yr Wrthblaid Plaid Cymru a'r ymrwymiad i sefydlu cwmni ynni cenedlaethol, Ynni Cymru.
2. Yn nodi papur ymchwil gan Simon Thomas ar gynigion i greu Ynni Cymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu Ynni Cymru, a fydd yn cael ei redeg fel cwmni di-ddifidend hyd braich o Lywodraeth Cymru, gan fuddsoddi elw mewn gwella gwasanaethau a phrisiau i gleientiaid.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymchwilio i greu rhwydwaith o gridiau ynni lleol.
'Rhaglen yr Wrthblaid Plaid Cymru'
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1. Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi ymrwymiad hirdymor Llywodraeth Cymru i wneud y canlynol:
a) defnyddio ynni mewn modd mor effeithlon â phosibl;
b) lleihau’r ddibyniaeth ar ynni a gynhyrchir o danwyddau ffosil; ac
c) rheoli’r broses o drosglwyddo i economi carbon isel er mwyn cyflawni’r manteision mwyaf posibl i Gymru a diogelu’r bobl sydd fwyaf agored i niwed.
2. Yn cydnabod cyfraniad rhaglenni a gyllidir gan Lywodraeth Cymru, fel Cartrefi Clyd, Nyth ac Arbed, Ynni Lleol, Twf Gwyrdd Cymru a’r rhaglen Byw yn Glyfar o safbwynt ysgogi a chefnogi’r trosglwyddiad cynnar i economi carbon isel.
3. Yn cydnabod rôl Llywodraeth Cymru o safbwynt cefnogi gwaith arloesol ym maes cynhyrchu ynni, fel cynllun peilot lleol a chymunedol Bethesda ar gyfer gwerthu ynni, y cynllun dŵr o bwll glo ym Mhen-y-bont ar Ogwr a chydweithio â diwydiant a’r byd academaidd.
4. Yn nodi’r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cynnal cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus ar draws Cymru er mwyn trafod cynigion ar gyfer cwmni ynni i Gymru.
(30 munud)
NDM6315 Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru)
Amddiffyn Cymru i'r genhedlaeth nesaf.
Yr heriau presennol sy'n wynebu Cymru, ac na welwyd erioed o'r blaen, gan gynnwys y berthynas â gweddill y byd, anghydraddoldeb economaidd, a'r angen am weithredu cadarnhaol ar frys o ran gwella canlyniadau i'r genhedlaeth nesaf.
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 6 Mehefin 2017